Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl:
Cyfrol 5 – Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy’n Wynebu Risg.
Rhieni Gyda Phroblemau Iechyd Meddwl a/Neu Gamddefnyddio Sylweddau
Nod y Protocol trosfwaol hwn yw sicrhau bod plant i riant/rhieni gyda salwch meddwl difrifol neu sy’n camddefnyddio sylweddau yn cael y gefnogaeth fwyaf priodol ac yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn. Mae gan asiantaethau gydgyfrifoldeb i amddiffyn plant. Mae hyn yn gofyn bod gwasanaethau’n cyfathrebu ac yn cydlynu’n effeithiol, ar lefelau strategol a gweithredol.
Lansio’r Canllawiau Diogelu Plant Anabl
Mae’r canllawiau ymarfer hyn yn egluro bod gan blant anabl yn union yr un hawliau dynol i fod yn ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod, i gael eu hamddiffyn rhag niwed a chyflawni canlyniadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 â phlant nad ydynt yn anabl. Fodd bynnag mae angen gweithredu ychwanegol ar blant anabl.
BDGC Polisi Diogelu Plant Anabl
Canllaw i Gadeiryddion a’r Rheiny sy’n cymryd cofnodion Cyfarfodydd Rhan IV
Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â rheoli honiadau o gam-drin ynglŷn â gweithiwr proffesiynol, aelod staff neu wirfoddolwr, neu honiadau yn eu herbyn, sydd mewn cyswllt â phlant ac oedolion diamddiffyn (neu sy’n rheoli/goruchwylio/dylanwadu ar wasanaethau). Mae proses Rhan IV yn ategol at brosesau Rhan III (AWCPP 2008) y dylid eu hystyried ar y cyd â honiadau o’r fath__
Canllaw i Gadeiryddion a’r Rheiny sy’n cymryd cofnodion Cyfarfodydd Rhan IV
________________________________________________________________
Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu Plant a Phobl Ifanc sy’n cael eu heffeithio gan Gam-drin Domestig
Mae plant sy’n byw mewn cartrefi lle mae cam-drin domestig yn digwydd yn agored i niwed sylweddol (Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau: Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004).
Dylai asiantaethau gymhwyso’r canllawiau ymarfer hyn at bob digwyddiad o gam-drin domestig.
Mae plant sy’n byw gyda cham-drin domestig bellach yn cael ei gydnabod yn destun pryder ynddo’i hun gan asiantaethau gwasanaethau plant allweddol a’r llywodraeth.
____________________________________________________________________
Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl – Cyfrol 2 – Adolygiadau Ymarfer Plant
Mae’r canllawiau hyn yn nodi trefniadau ar gyfer adolygiadau ymarfer plant
amlasiantaethol mewn amgylchiadau digwyddiad o bwys lle gwyddys neu lle amheuir
bod achos o gam-drin neu esgeuluso plentyn wedi digwydd. Caiff penodau 1-7 y
canllawiau hyn eu cyhoeddi dan adran 139 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014.
____________________________________________________________________
Llwybr Cyn Geni Aml-asiantaeth
Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynllunio i adnabod yn well y babanod hynny sydd mewn perygl mwyaf a hyrwyddo rhannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng asiantaethau. Mae’r canllawiau hyn yn hyrwyddo gwaith amlasiantaeth effeithiol ac effeithlon.
____________________________________________________________________
Protocol Rhannu Gwybodaeth Rhyngasiantaethol ar Gyfer Asesu Plant Mewn Angen a Phlant Sydd ag Angen Amddiffyn
Pwrpas y protocol yw hyrwyddo rhannu gwybodaeth ryngasiantaethol i ddiben asesu a chynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau ar gyfer plant diamddiffyn sy’n byw o fewn eu teuluoedd eu hunain, i hyrwyddo lefel foddhaol o iechyd a datblygiad, fel sydd wedi’i ddiffinio gan Adran 17 Deddf Plant, 1989 Mae rhagdybiaeth bydd asiantaethau yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a bydd, lle bynnag bo hynny’n bosibl, caniatâd ar gyfer unrhyw weithred neu rannu gwybodaeth ar gael.
2011 Protocol Rhannu Gwybodaeth Rhyngasiantaethol ar Gyfer Asesu Plant Mewn Angen a Phlant Sydd CYM
___________________________________________________________________
Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC) – Gwybodaeth Cyfeirio
Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf, ond fel arfer mae’n cael ei gyflawni gan ddynion tuag at ferched mewn perthynas agos, fel cariadon, gŵr/ gwraig. Gellir defnyddio’r rhestr wirio hon hefyd ar gyfer perthnasoedd lesbiaidd, hoyw, deurywiol ac ar gyfer sefyllfaoedd o drais neu drais teuluol ar sail ‘anrhydedd’. Gall cam-drin domestig gynnwys trais corfforol, emosiynol, meddyliol, rhyw neu gam-drin ariannol yn ogystal â stelcian ac aflonyddu. Efallai eu bod yn profi un neu bob math o gamdriniaeth; mae pob sefyllfa’n unigryw. Dyma’r cyfuniad o ymddygiadau a all fod mor fygythiol. Gall ddigwydd yn ystod perthynas neu ar ôl iddi ddod i ben.
Wedi’u cynnwys isod y mae: Canllawiau Rhestr Wirio Risg SafeLives DASH, Rhestr Wirio Risg SafeLives Dash – i’w ddefnyddio gan IDVA ac asiantaethau eraill nad ydynt yn heddlu ar gyfer nodi risgiau pan fod cam-drin domestig, trais yn ymwneud ag ‘anrhydedd’- a / neu stelcian yn cael eu datgelu, MAP Meddyliau Dioddefwyr, Ffurflen Atgyfeirio MARAC, Ffurflen Ymchwil MARAC
SafeLives DASH Risk Assessment Guidance
SafeLives DASH Risk Assessment
____________________________________________________________________
Amddiffyn Plant a Phobol Ifanc sydd mewn perygl ney sy’n profi niwed trwy ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Bwriad y canllawiau hyn yw rhoi arweiniad i weithwyr proffesiynol ym maes amddiffyn plant a phobl ifanc a all fod mewn perygl neu’n profi cam-drin trwy dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
FINAL ICT Child Protection Protocol – Gorfennaf 2015-CYMRAEG
____________________________________________________________________
Protocol Rhannu Gwybodaeth Rhyngasiantaethol ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a Phlant sydd ag Angen Amddiffyn
Mae hwn yn brotocol rhwng Heddlu Gogledd Cymru ac y chwech awdurdod lleol.
Pwrpas y protocol yw hyrwyddo rhannu gwybodaeth ryngasiantaethol i ddiben asesu a chynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau ar gyfer plant diamddiffyn sy’n byw o fewn eu teuluoedd eu hunain, i hyrwyddo lefel foddhaol o iechyd a datblygiad, fel sydd wedi’i ddiffinio gan Adran 17 Deddf Plant, 1989 Mae rhagdybiaeth bydd asiantaethau yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a bydd, lle bynnag bo hynny’n bosibl, caniatâd ar gyfer unrhyw weithred neu rannu gwybodaeth ar gael.
Bydd angen i’r protocol hwn gael ei adolygu yn fuan yn sgil Deddf Gwasnaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Protocol ar y cyd ar gyfer ystyried anghenion plant wrth weithio gydag oedolion â salwch meddwl difrifol a/neu sy’n camddefnyddio sylweddau
Amcan cyffredinol y Protocol hwn yw sicrhau fod plentyn/plant rhiant/rhieni â salwch meddwl difrifol neu sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn derbyn y gefnogaeth briodol ac yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn. Mae’n angenrheidiol i bob asiantaeth gyfathrebu effeithiol a chydlynu gwasanaethau ar lefel strategol a gweithredol. Mae’n hollbwysig bod pob un o’r asiantaethau sy’n ymwneud â theulu yn cadw cysylltiad agos â’i gilydd ac yn gweithio ar y cyd.
Protocol Gogledd Cymru ar gyfer darpariaeth therapi cyn-treial ar gyfer plant sy’n dystion
Mae’r Protocol hwn wedi’i ddrafftio fel yr awgrymwyd ym mharagraff 6.16 o’r Cyfarwyddyd Ymarfer “Darpariaeth therapi ar gyfer Tystion cyn Treial Troseddol” a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Cyfarwyddyd Ymarfer.
Protocol Gogledd Cymru ar gyfer darpariaeth therapi cyn-treial ar gyfer plant sy’n dystion
Protocol Gogledd Cymru ar gyfer Delio â Gwahaniaeth Barn Broffesiynol
Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru, Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004 yn mynnu bod gan Fyrddau Lleol Diogelu Plant Brotocol ar gyfer delio â gwahaniaeth barn broffesiynol.
Nid broses chwythu chwiban ydy’r Protocol; yn hytrach, mae’n strwythur i’w ddilyn i ddelio â gwahaniaeth barn broffesiynol.
Protocol Gogledd Cymru ar gyfer Datrys
Protocol Gogledd Cymru ar gyfer rheoli cwynion mewn perthynas â chynadleddau amddiffyn plant
Mae’n ofynnol o dan Ganllawiau ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’ Ddeddf Plant 2004 I fyrddau diogelu gael gweithdrefn yn ei lle ar gyfer delio â chwynion am weithrediad cynadleddau amddiffyn plant.
Protocol Gogledd Cymru ar gyfer rheoli cwynion mewn perthynas â chynadleddau amddiffyn plant
Taflen Wybodaeth i rhieni, gofalwyr a phobol ifanc ar y drefn gwyno ynglyn a chynhadleddau amddiffyn plant.
Rhieni Gofalwyr a Phobl Ifanc ynglŷn â Chwynion am Gynadleddau Amddiffyn Plant
Protocol ar y Cyd mewn perthynas â diogelu plant a phobl ifanc sy’n dod i gysylltiad ag oedolion sy’n edrych ar ddelweddau anweddus o blant
Dyma amlinelliad o’r broses amddiffyn plant i ymarferwyr ac i roi canllaw i gefnogi’r ymarferwyr hynny sydd yn gweithio a phlant a theuluoedd sydd wedi cael ei effeithio gan oedolion sy’n edrych ar ddelweddau anweddus o blant.
Protocol ar gyfer rheoli cwynion yn ymwneud â gweithrediad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Mae’r protocol hwn yn darparu’r broses ar gyfer rheoli cwynion a waned ynglyn a swyddogaethau’r Bwrdd Diolgelu, er enghraifft – pryderon ynglyn a gwaith aml-asiantaethol / hyfforddiant / gweithrediad y bwrdd neu is-grwp.
Protocol ar gyfer rheoli cwynion yn ymwneud â gweithrediad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Atgyfeiriad at Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant a Theuluoedd)
Mae’r ffurflen yma wedi cael ei datblygu ar gyfer ymarferwyr er mwyn cyfeirio unrhyw bryderon amddiffyn plant at wasanaethau plant ar draws Gogledd Cymru.
Ffurflen Atgyfeirio – Plant a Theuluoedd
FFURFLEN ATGYFEIRIO – PLANT a THEULUOEDD
PRUDiC
Procedural Response to Unexpected Deaths in Childhood