Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio 20 – 24 Ebrill 2015

Alan Thompson

Updated on:

Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio yn diweddu dydd Gwener, 24 Ebrill gyda Diwrnod Ymwybyddiaeth Stelcio fydd yn canolbwyntio ar hybu ymwybyddiaeth o stelcio.

  • Mae 1 ym mhob 20 person sy’n ffonio Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio yn dweud eu bod yn cael eu stelcio gan gydweithiwr neu gyn-gydweithiwr.
  • Mewn chwarter o’r holl achosion sy’n cael eu riportio i’r Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio, bydd y stelciwr yng ngweithle’r dioddefwr.
  • Mae 50% o ddioddefwyr stelcio yn lleihau eu horiau neu’n stopio gweithio oherwydd eu bod yn cael eu stelcio.

Meddai Ditectif Uwcharolygydd Jo Ramessur-Williams, Pennaeth Uned Diogelu’r Cyhoedd Heddlu Gogledd Cymru: “Gellir cysylltu ymchwiliadau sy’n ymwneud â stelcio gyda rhai o’r troseddau mwyaf difrifol mae’r heddlu yn delio â nhw gan gynnwys llofruddiaeth, troseddau rhyw a chamdriniaeth ddomestig.  Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i daclo stelcio ac aflonyddwch ac yn cydnabod ei rôl fel cyflogwr dros 2500 o bobl i adnabod a thaclo stelcio yn y gweithle.”

Fe ychwanegodd Ditectif Arolygydd Lisa Surridge o Uned Diogelu’r Cyhoedd Heddlu Gogledd Cymru a Chadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, grŵp ymgynghori a chysylltiadau: wholesale jerseys “Gall effaith stelcio ac Inner aflonyddwch ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau fod yn frawychus, fodd bynnag nid yw llawer o’r dioddefwyr yn ymwybodol bod y math yma o gamdriniaeth yn anghyfreithlon, a bod yna ddeddfwriaeth i’w hamddiffyn.  Y ddeddf sy’n amddiffyn pobl rhag stelcian yng Nghymru a Lloegr ydi Deddf Gwarchod rhag Aflonyddwch 1997 a chafodd ei diwygio yn Nhachwedd 2012 i gynnwys ‘stelcian’ yn benodol.  Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio’r ddeddfwriaeth hon pa bryd bynnag y bydd hynny’n bosib er mwyn sicrhau ein bod yn euogfarnu unigolion sy’n cyflawni’r trosedd difrifol hwn a gwneud Gogledd Cymru yn lle diogelach.  Agwedd amlasiantaeth ydi hon gydag ymrwymiad cadarn yr holl asiantaethau sy’n ceisio diogelu dioddefwyr.”

Meddai Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae dioddef stelcio ac aflonyddwch nid yn unig yn amhleserus ond mae hefyd yn frawychus dros ben ac rwy’n falch, o ganlyniad i’n hymdrechion, ein bod yn gweld mwy o bobl yn dod ymlaen i riportio’r trosedd dychrynllyd yma.

Mae’n bwysig eu bod gwybod fod gennym systemau mewn lle i gynnig cefnogaeth i ddioddefwyr stelcio a throseddau rhyw eraill – a Under dylai’r stelcwyr wybod y byddant yn cael eu heuogfarnu a’u cosbi.  Os nad ydi’r troseddau hyn yn wholesale jerseys cael eu riportio yna ni allwn eu datrys ac mae gennym erbyn hyn dimau dynodedig mewn lle i ddelio â’r troseddau hyn ac felly mae’r hinsawdd gyfan ar gyfer dioddefwyr ymosodiadau rhyw yn wahanol iawn i beth oedd yn y gorffennol.  Hefyd mae angen i bobl fod yn ymwybodol o’r cynnydd mewn cheap NBA jerseys stelcio seiber a dyma pam ei bod yn bwysig ein bod yn ofalus pan fyddwn yn sgwrsio ar-lein, yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook neu’n chwilio am ddêt ar-lein.”

Hoffwn annog unrhyw un sy’n credu eu bod yn cael eu stelcio neu eu haflonyddu i ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 999 mewn argyfwng.  Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o gefnogaeth a gwybodaeth drwy ffonio colorado Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio ac Aflonyddwch ar 0808 802 0300 neu fynd i’w gwefan http://www.stalkinghelpline.org/

Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio yn cheap jerseys cael ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh ac mae Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio yn bump oed yr wythnos hon. Mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh wedi cyhoeddi ffilm fer o’r enw What is Stalking a bydd yn cael ei lansio yn swyddogol heddiw, ddydd Llun 24 Ebrill 2015.  I’w gwylio ewch ihttps://www.givey.com/suzylamplughtrust.

Leave a Comment