AYPE Gwynedd 1

Bethan Jones

Comisiynwyd yr Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig hwn gan Gadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ym mis Chwefror 2015. Cynhaliwyd yr adolygiad yn dilyn canfyddiad o ffaith y rhoddwyd methadon yn fwriadol i ddau o blant ifanc gan un neu’r ddau o’u rhieni yn ardal Gwynedd. Cadarnhawyd hyn fis Tachwedd 2015.

Cafodd yr Adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig ei anfon i Lywodraeth Cymru ym ac, o dan y rheoliadau, gall Tîm Diogelu Llywodraeth Cymru dynnu rhannau eraill o Lywodraeth Cymru a’r Grŵp Arolygiaeth i mewn os bydd angen unrhyw gamau pellach.  Nid oedd angen cymryd camau pellach.

Nododd yr adolygwyr annibynnol feysydd o arfer da o ran herio priodol a chadarn.  Yn ogystal, nodwyd bod yr Adran Dai yn ffynhonnell wybodaeth arbennig o ddefnyddiol, yr oedd eu presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod o’r fath yn werthfawr a dim ond yn ychwanegu at y darlun diogelu.

Amlygodd yr adolygiad yr angen am i atgyfeiriadau o safon gael eu hanfon at y Gwasanaethau Cymdeithasol gan weithwyr proffesiynol a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol (gan gynnwys gwybodaeth hanesyddol) yn cael ei ystyried fel rhan o’r asesiad cychwynnol.

Mae angen cronoleg ar achosion sydd yn arf allweddol i gynorthwyo myfyrdod a dadansoddiad o ran amser real ac ar ôl y digwyddiad a ddylai fod wedi digwydd yn yr achos hwn.

Teimlai’r adolygwyr bod angen adolygu proses ac amseriad Asesiadau Cyn Geni gan bob asiantaeth fel bod rhywfaint o synergedd a rhannu gwybodaeth briodol ar gam cynnar i lywio penderfyniadau rheoli achosion a chynllunio.  Ar draws Gogledd Cymru mae ymagweddau anghyson rhwng Adrannau Gofal Cymdeithasol ynghylch pryd i dderbyn atgyfeiriadau cyn-geni oddi wrth asiantaethau partner.

Ym marn yr adolygwyr pan ystyrir sefyllfa yn ormod o risg i weithwyr proffesiynol ei mynychu ei hun, mae’n rhaid i hyn arwain at bryderon sylweddol o’r risgiau a berir i’r plant ar yr aelwyd, a dylai arwain at adolygiad o lefel y risg a gyflwynir i’r plant.

Teimlai’r adolygwyr bod yr achos hwn yn arbennig wedi tynnu sylw at yr angen am oruchwyliaeth wrthrychol a phwysigrwydd ‘llygaid ffres’.  Yn ogystal yn ystod yr adolygiad hwn, ymddengys y bu rhai gweithwyr proffesiynol yn gyndyn o wneud atgyfeiriad ynghylch diogelu, a phan y cafodd ei wneud, dilynwyd prosesau mewnol (e.e. cyfarfod gweithwyr proffesiynol) a allai fod wedi tanseilio’r ymdrechion i ddiogelu.

Amlygodd yr adolygiad fod angen i weithwyr proffesiynol gael mynediad amserol i ddogfennau diogelu a dealltwriaeth ar y cyd o’r hyn roedd y termau yn ei olygu mewn gwirionedd.  Teimlai’r adolygwyr hefyd ei bod yn hanfodol bod gweithwyr proffesiynol yn cadw meddwl agored a ‘meddwl y gwaethaf’ wrth asesu risgiau diogelu i blant gyda rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau.

Mae cynllun gweithredu wedi ei lunio ac yn cael ei fonitro gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru i sicrhau bod myfyrio a dysgu wedi digwydd ar draws yr holl asiantaethau sy’n gweithio gyda’r teulu hwn.

Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yn yr Adran CPR o’r Wefan.

Leave a Comment