Cyflwyniad I Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru (BDPGC) yn gorff statudol sy’n cydgysylltu, monitro a herio ei asiantaethau partner wrth ddiogelu plant yng Ngogledd Cymru. Amcanion BDPGC yw AMDDIFFYN plant yn ei ardal sydd, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu brofi mathau eraill o niwed, ac ATAL plant sydd, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu o brofi math arall o niwed.

Mae gan fyrddau diogelu rôl unigryw i’w chwarae. Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru yn gweld mai ei swyddogaeth yw gwneud “Diogelu yn fusnes i bawb”
Yr asiantaethau partner yw’r chwe awdurdod lleol ar draws y rhanbarth (Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Chwmni Ail sefydlu Cymunedol.

Tarddiad y Byrddau Diogelu oedd Deddf Plant 2004 a chefndir y ddeddfwriaeth hon oedd ‘Mae Pob Plentyn yn Bwysig’ yn dilyn llofruddiaeth Victoria Climbie. Gwnaeth y Ddeddf hon yn glir mai dim ond wrth i asiantaethau allweddol weithio gyda’i gilydd y gellid cadw plant yn gwbl ddiogel.
Yn 2013, cymerodd BDPGC gyfrifoldeb dros y trefniadau diogelu gan y tri bwrdd diogelu lleol a oedd yn gweithredu ar draws Gogledd Cymru ers 2004. (Bwrdd Lleol Diogelu Plant Gwynedd a Môn, Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych a Bwrdd Lleol Diogelu Plant Sir y Fflint a Wrecsam)
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, yn ffurfio sail y fframwaith statudol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn darparu strwythur newydd ar gyfer y byrddau diogelu yng Nghymru, gyda chwech o fyrddau diogelu yn gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ym mis Ebrill 2016.

BETH YW DIBEN BWRDD DIOGELU PLANT GOGLEDD CYMRU?

• Cyfrannu tuag at sicrhau bod y polisi a’r gweithdrefnau cenedlaethol yn cael eu monitro ac yn parhau i fod yn addas at y diben, gan ymgysylltu â’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Byrddau Diogelu eraill
• Codi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd, o amcan y Bwrdd o ran Diogelu ac Atal, a darparu gwybodaeth ynghylch sut y gellid cyflawni hyn.
• Adolygu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd gan bartneriaid y Bwrdd Diogelu a chyrff a gynrychiolir ar y Bwrdd
• Ymgymryd â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau a’r Gyfradd Ganrannol Flynyddol
• Cynnal archwiliadau, adolygiadau ac ymchwiliadau yn unol â’r amcanion
• Adolygu perfformiad y Bwrdd a’i bartneriaid a gynrychiolir ar y Bwrdd wrth gyflawni ei amcanion
• Lledaenu gwybodaeth am arfer gorau a dysgu sy’n deillio o adolygiadau
• Hwyluso ymchwil i amddiffyn ac atal cam-drin ac esgeuluso plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed
• Adolygu anghenion hyfforddiant yr ymarferwyr hynny sy’n gweithio yn ardal y Bwrdd ac i nodi gweithgareddau hyfforddi a sicrhau y darperir hyfforddiant ar sail rhyngasiantaeth ac ar sail sefydliadol unigol er mwyn cynorthwyo i amddiffyn ac atal cam-drin ac esgeuluso plant.
• Cydweithredu neu weithredu ar y cyd gydag un neu fwy o Fyrddau eraill

BETH YW RÔL BWRDD DIOGELU GOGLEDD CYMRU?

• Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyffredinol i herio asiantaethau perthnasol yn yr ardal fel bod:
• Mesurau effeithiol ar waith i AMDDIFFYN plant
• Cynllunio cydweithredol effeithiol rhwng asiantaethau a darparu gwasanaethau diogelu a rhannu gwybodaeth
• Rhagweld a Nodi lle gallai unigolion gael eu heffeithio a gweithio gyda darparwyr gwasanaeth i ddatblygu adnabyddiaeth gynharach a gwasanaethau ataliol
• Hyrwyddo gwasanaethau cymorth aml-asiantaeth effeithiol
• Hyrwyddo dulliau rhyngasiantaeth i weithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lle y gall fod poblogaethau mewn perygl o niwed
• Defnyddio hyfforddiant rhyngasiantaeth a lledaenu dulliau dysgu ac ymchwil er mwyn helpu i greu gweithlu aml-asiantaeth mwy hyderus a gwybodus

STRWYTHUR BWRDD DIOGELU GOGLEDD CYMRU

 

Cyngor Bwrdeistref Conwy yw’r awdurdod lletyol ar gyfer BDPGC. Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan Jenny Williams (Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg Cyngor Bwrdeistref Conwy). Mae BDPGC yn cyfarfod bob yn ail fis.
Blaenoriaethau strategol BDPGC yw;
1. Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant a Phlant sy’n derbyn Gofal sy’n mynd ar goll yn rheolaidd.
2. Plant sy’n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol a
3. Cam-drin Domestig