Cam-fanteisio a Cham-drin Rhywiol Ar Blant yng Nghymru

Hannah Cassidy

Gwella atal, amddiffyn a darparu cymorth – Cymorth i Fenywod Cymru mewn partneriaeth â’r Ganolfan Drais a Chymorth Rhywiol (RASASC)

Dydd Llun 1 Hydref 2018, 10:00 – 15:30, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam

Mae Cymorth i Fenywod Cymru yn eich gwahodd i seminar aml-asiantaeth yn mynd i’r afael â cham-fanteisio a cham-drin rhywiol ar blant yng Nghymru a fydd yn trafod sut i wella atal, amddiffyn a darparu cymorth.

Yn y digwyddiad hwn bydd yna siaradwyr hynod brofiadol, dylanwadol sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys:

  • Jessica Eaton – Arbenigwr Annibynnol mewn Seicoleg Trais Rhywiol, Camdriniaeth, Trawma Rhywiol a’r Ffenomenon Cymdeithasol o Feio’r Dioddefwr
  • Yasmin Rehman – Arbenigwr Annibynnol Rhyngwladol ar Hil, Ffydd, Rhywedd a Hawliau Dynol
  • Nazir Afzal – Ymgynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Cham-drin Rhywiol

I ddilyn hyn bydd gweithdy hyfforddi ar gyfer gwasanaethau arbenigol Cymorth i fenywod Cymru. I archebu, gweler y ddolen isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/child-sexual-exploitation-abuse-in-wales-improving-prevention-protection-and-provision-of-support-tickets-49211782767

Leave a Comment