Camfantais Rhywiol ar Blant (CRhaB) – Ffilm Fer

Bethan Jones

Updated on:

Cafodd ffilm fer wedi ei chynhyrchu gan bobol ifanc ei lawnsio yn  Eisteddfod yr Urdd dydd Gwener. Dyma brosiect ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru, Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, Conwy a Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, Sir Ddinbych.

Myfyrwyr drama o’r ddwy ysgol oedd y disgyblion oedd yn actio yn y ffilm er mwyn amlygu’r peryglon o gamfantais rhwyiol ar blant.

Bu i swyddogion ddweud bod y ffilm yma yn mynd i fod o help i bobol ifanc eraill weld perthnasedd y broblem.

Thema’r ddrama ydi nad ydi Camfantais Rhwyiol yn dderbyniol ac mai dim ond un person sydd ar fai – y tramgwyddwr ac nid y plentyn. Mae’r slogan – ‘Gwybod Mwy, Edrych Mwy ,Gweld Mwy’ yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth.

Camfantais Rhywiol ar Blant (CRhaB) – Ffilm Fer

Leave a Comment