‘Cudd’ – adnodd addysgol ar-lein ar gam-fanteisio rhywiol.
Cafodd yr adnodd yma , a ddatblygwyd gyda Barnardos Cymru ei lawnsio yng ngynhadledd Cadw dysgwyr yn ddiogel – ar 3 Rhagfyr 2015.
Bydd Barnardos Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol hanner diwrnod ar draws Cymru a hanelu’n bennaf at ymarferwyr mewn ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n gweithio gyda 14 – 18 oed.
Diben yr hyfforddiant yw:
- Nod yr hyfforddiant yw helpu ymarferwyr addysg i ddeall eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau mewn perthynas ag atal camfanteisio rhywiol ar blant a diogelu plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin. Yn benodol, bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i ddefnyddio Cudd: Adnodd Addysgol am Gamfanteisio Rhywiol wrth gyflwyno sesiynau. Bydd hynny’n sicrhau bod pobl ifanc yn:
- deall y cysylltiadau rhwng dewis a chanlyniadau e.e. pa mor rhwydd ydyw i gael eich tynnu i mewn i gam-fanteisio rhywiol a pha mor anodd ydyw i ddianc rhagddo;
- cydnabod sefyllfaoedd sy’n peri risg a ffactorau sy’n gwneud pobl ifanc yn fwy agored i eraill camfanteisio arnynt yn rhywiol;
- siarad am yr effaith emosiynol a chorfforol y mae camfanteisio rhywiol yn ei chael ar bobl a dangos empathi at deimladau eraill;
- nodi’r prif bobl y gallant droi atynt i gael cymorth, dod o hyd i ffyrdd o leihau’r risgiau a llunio strategaethau i’w cadw eu hunain yn ddiogel.
Dyddiadau a lleoliadau yw:
Llandudno – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ
16 Chwefror 9:30 – 12:30 16 Chwefror 13:30 – 16:30
17 Chwefror 9:30 – 12:30 17 Chwefror 13:30 – 16:30
| :
|
Bedwas – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Tŷ Afon, Ffordd Bedwas, Bedwas, Caerffili, CF83 8WT
26 Chwefror 9:30 – 12:30 26 Chwefror 13:30 – 16:30
18 Mawrth 9:30 – 12:30 18 Mawrth 13:30 – 16:30
| |
Pen-y-bont – Canolfan Waterton, Ystad Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont CF31 3WT
2 Mawrth 9:30 – 12:30 2 Mawrth 13:30 – 16:30
11 Mawrth 9:30 – 12:30 11 Mawrth 13:30 – 16:30
29 Mawrth 9:30 – 12:30 29 Mawrth 13:30 – 16:30
30 Mawrth 9:30 – 12:30 30 Mawrth 13:30 – 16:30
|
|
Merthyr Tudful – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ
23 Mawrth 9:30 – 12:30 23 Mawrth 13:30 – 16:30
|
|
Cyfyngir y lleoedd i 20 ar gyfer pob sesiwn a chaiff y lleoedd hynny eu neilltuo ar sail cyntaf i’r felin. Mae’r sesiynau am ddim a darperir lluniaeth. Cofrestrwch isod