Cwrs i Rhieni ynglyn a Chamfanteisio Rhywiol ar Blant – ‘KEEP THEM SAFE’

Sara Lloyd Evans

Mae Pace (Parents against child sex exploitation), mewn partneriaeth a’r  Virtual College, wedi lawnsio pecyn gwybodaeth rhyng-weithiol i rhieni ynglyn a’r arwyddion posibl bod eich plentyn yn cael ei gamddefnyddio yn rhywiol.  Mae’r adnodd yma wedi ei ddatblygu er mwyn arfogi rhieni gyda gwybodaeth a’r dealltwriaeth o sut  i ddiogelu plant rhag y math yma o gamdriniaeth.

Bydd y pecyn yma yn rhoi hyder i rhieni er mwyn gallu adnabod a thaclo y math yma o gamdriniaeth. Mae’r adnodd yn un rhyngweithiol ac bydd yn cymeryd 20-30 munud i’w gwbwlhau.

Bydd yr adnodd yn galluogi rhieni i gadw ei plant yn saff ac yn ei helpu i:

  •  wybod mwy am gamfanteisio yn rhywiol ar blant
  •  adnabod yr arwyddion all awgrymu bod eich plenty yn cael ei gamfanteisio.
  •  werthfawrogi effaith camfantais rhywiol ar y teulu
  •  wybod beth i’w wneud os ydych yn amau bod eich plenty mewn perygl o’r camdriniaeth yma

Gallwch  gael mynedfa i’r adnodd hwn drwy gofrestu ar wefan PACE gan ddefnyddio eich cyfeiriad e bost. Byddwch yn derbyn cyfrinair er mwyn logio mewn a byddwch yn gallu arbed a chwbwlhau’r cwrs yn eich cyflymder eich hun neu ei ddefnyddio i gyfeirio yn ol.  Cyfeiriad y wefan ydi www.paceuk.info/about-cse/keep-them-safe/

Leave a Comment