Cyhoeddi Adroddiad Adolygiad Estynedig Ymarfer Plant Ynys Mon 1

Sara Lloyd Evans

Updated on:

Ar 10 Ionawr 2014, argymhellodd y Bwrdd Diogelu Plant Lleol Gwynedd a Môn ar y pryd y dylai Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig gael ei wneud yn dilyn marwolaeth sydyn baban 13 wythnos oed. Mae’r Bwrdd yn cydymdeimlo â’r teulu, sydd wedi cael  ei diweddaru yn ystod yr adolygiad.

Pwrpas yr Adolygiad oedd sefydlu a oes gwersi i’w dysgu am y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu plant, er mwyn sicrhau bod y gwersi yn cael eu gweithredu, a gwella gweithio rhyngasiantaethol. Cafodd yr adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig ei anfon i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2015 ac o dan y rheoliadau, gall y tîm diogelu dynnu rhannau eraill o Lywodraeth Cymru a’r Grŵp Arolygiaeth i mewn os bydd angen unrhyw gamau pellach. Nid oedd angen cymryd camau pellach.

Roedd y cwest i farwolaeth y plentyn yn dod i’r casgliad na chanfuwyd achos y farwolaeth, ond roedd yn cadarnhau bodolaeth torasgwrn oedd yn gwella i un o asennau’r plentyn ar adeg y farwolaeth. Nid oedd y torasgwrn yn gysylltiedig â’r farwolaeth.

Roedd y tîm adolygu yn nodi y bu toriadau sylweddol yng Ngweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008, a arweiniodd at golli cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth ac wedi cyfrannu at oedi. Yn benodol, roedd y tîm adolygu yn feirniadol o’r nifer o newidiadau mewn gweithwyr cymdeithasol, ar adegau tyngedfennol ym mywyd y plentyn. Roedd y tîm adolygu hefyd yn feirniadol o’r defnydd o Adran 20 fel dyfais ddal, a oedd yn dangos diffyg rheolaeth.

Roedd y tîm adolygu yn nodi bod y plentyn yn agored iawn i niwed ac roedd y tîm wedi dod i’r casgliad bod y mater o p’un a oedd y plentyn wedi dioddef tynnu’n ôl o gyffuriau ar ôl genedigaeth yn parhau heb ei ddatrys. Ym marn y tîm adolygu gallai’r amgylchiadau yr oedd y plentyn ynddynt fod wedi eu hosgoi a dylent fod wedi eu hosgoi. Mae yna wersi yma i’r holl asiantaethau, sy’n cynnwys nodi a rheoli risg; rhannu gwybodaeth; deall y sail gyfreithiol ar gyfer ymyrraeth; yr angen i ddeall anghenion rhieni yn ogystal â rhai’r plant; anghenion iechyd babanod a allai fod wedi cael eu niweidio tra yn y groth; a’r angen i ddeall y ffactorau sy’n cyfrannu at farwolaeth sydyn mewn babanod yn well.

Ym mis Medi 2014, cyfarfu’r tîm adolygu â Chyngor Sir Ynys Môn i dynnu sylw at eu pryderon cynnar ynghylch cydymffurfio ag arfer, polisi a gweithdrefnau ac i ddiogelu plant eraill a allai rannu proffil tebyg i’r plentyn hwn.

Ym mis Ebrill 2015, roedd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru yn ceisio sicrwydd gan Gyngor Sir Ynys Môn y bu cynnydd, a rhoddwyd sicrwydd mewn perthynas â sefydlogrwydd y gweithlu; offer risg wedi eu hymgorffori yn ymarferol; ac archwilio lleoliadau Adran 20. Cyflwynodd Cyngor Sir Ynys Môn nifer o newidiadau i’w arferion yn ystod yr adolygiad, gan sicrhau nad oedd unrhyw oedi cyn ymateb i’r gwersi a ddysgwyd. Mae cynllun gweithredu wedi ei lunio ac mae cynnydd wedi cael ei adrodd i Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru mewn perthynas â’r argymhellion hyn.

 

Mae’r adroddiad i’w weld o fewn adran Adolygiad Ymarfer Plentyn.

Leave a Comment