Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi ei enwebu am wobr!
Mae’r gwobrau – a gynhelir bob dwy flynedd – yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu rhagoriaeth mewn gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal yn ystod blynyddoedd cynnar, a gofal plant.
Mae’r Gwobrau yn agored i dimau a sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol. Maent yn cydnabod mentrau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, wedi cefnogi datblygiad staff ac wedi annog gwelliant i wasanaethau.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yn Neuadd Dinas Caerdydd ddydd Iau, 13 Medi 2018. Dywedodd Arwel Ellis Owen OBE, Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru a phanel beirniaid y Gwobrau: “Rydyn ni wrth ein boddau fod y nifer uchaf erioed o geisiadau eleni wedi arwain at garfan gref yn y rownd derfynol sy’n dangos yn glir faint o ymarfer rhagorol sy’n digwydd ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.
“Bydd y seremoni wobrwyo’r mis nesaf yn gyfle gwych i amlygu’r darnau rhagorol hyn o waith a bydd yn sbardun ar gyfer hyrwyddo ymarfer rhagorol a’i rannu â gweddill y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant.
“O ganlyniad, gobeithiwn y bydd gan y Gwobrau ran bwysig mewn helpu i wella gwasanaethau ac y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar y rheiny sy’n derbyn gofal a chymorth ledled y wlad.”
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi ei enwebu yn y categori canlynol:
Dulliau effeithiol o ddiogelu (noddir gan Blake Morgan)
- Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru – am ei fenter Protocol Hunanesgeuluso, a ddatblygwyd i atal anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth pobl y mae’n ymddangos eu bod yn esgeuluso eu hunain, gan gefnogi eu hawl i gael eu trin â pharch ac urddas a “chynorthwyo i adnabod sefyllfaoedd o hunanesgeuluso”.
- Gwasanaethau Plant Casnewydd a Barnardo’s – am eu prosiect Gwasanaethau Cymorth Integredig i Deuluoedd, sy’n arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y plant a dynnir oddi wrth eu teuluoedd a’u rhoi mewn gofal. Mae’r cynllun yn darparu cymorth amlasiantaethol dwys ar gyfer teuluoedd “sy’n agos at fod angen gofal” ac yn helpu i wella rhianta.
- Cyngor Sir Penfro – am ei brosiect Gwarcheidwaid Diogelu Pobl Ifanc, lle mae pobl ifanc yn helpu pobl ifanc eraill i ddeall materion diogelu a chadw eu hunain rhag niwed. Hefyd, mae’r grŵp wedi cynnal dwy gynhadledd ar ddiogelu i ddarparu hyfforddiant a hyrwyddo diogelu ymhlith grŵp mawr o bobl ifanc o bob cwr o Sir Benfro.
Gweler y ddolen isod am gategorïau a gwybodaeth bellach