Dydd Llun 13 Tachwedd 2017 yn Stadiwm Principality, Caerdydd
Bydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn cynnal am ddim tâl cynhadledd i lansio Wythnos Diogelu 13 – 17 Tachwedd.
Mae chwaraeon o fudd i iechyd a lles unigolion a chymunedau, ond mae’r diwydiant hefyd yn wynebu heriau diogelu. Diben y gynhadledd yw nodi sut y gallwn sicrhau bod y diwydiant chwaraeon yn ymwybodol o ddiogelwch plant ac oedolion.
Beth yw nodau’r gynhadledd?
- Dysgu o brofiadau a chydnerthedd ein siaradwyr y mae eu bywydau wedi’u niweidio gan effeithiau cam-drin ond sydd wedi trechu hyn drwy ddangos cryfder ac urddas
- Hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol wrth sicrhau bod cyfranogwyr yn ddiogel
- Pwysleisio rôl hanfodol atal niwed a cham-drin y gall oedolion ei gadw’n gyfrinach drwy gydol eu hoes.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Mae’r siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig. Bydd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn agor y digwyddiad. Bydd aelodau o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn rhannu’r gwaith o gadeirio, cyfweld a chrynhoi.
I bwy mae’r digwyddiad?
Byrddau Diogelu Rhanbarthol, cyrff llywodraethu chwaraeon, rhieni, athrawon, llywodraethwyr ysgol, yr heddlu a hyfforddwyr chwaraeon.
Cofrestrwch eich diddordeb yma: https://goo.gl/rtXSBx