Arferion Traddodiadol Niweidiol

Arferion Traddodiadol Niweidiol

Trefnwyd gan:Children in Wales
Lleoliad: Caerdydd

22 Mehefin 2016, Caerdydd – Archebwch ar-lein

 

Cwrs hanner dydd

Mae arferion diwylliannol traddodiadol yn adlewyrchu gwerthoedd a chredoau aelodau o gymuned, ac mae rhai ohonynt yn niweidiol i grwpiau penodol, megis plant a benywod, a rhai yn enghreifftiau o drais ar sail rhyw. Mae rhai arferion wedi’u gwreiddio mewn ardal benodol o’r byd, tra bod eraill yn fwy cyffredinol, ac wedi’u gwreiddio mewn normau diwylliannol a chrefyddol. Mae’r rhain yn aml wedi’u sylfaenu ar ddehongliadau patriarchaidd o destunau crefyddol a goruchafiaeth gwrywod.

 

Mae gan Gymru boblogaeth BAME fawr, amrywiol, ac mae cymunedau sy’n byw yng Nghymru yn dal i lynu at rai arferion traddodiadol.

 

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi sylw i drais ar sail ‘anrhydedd’ ac arferion traddodiadol eraill niweidiol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys llurgunio organau rhyw merched, priodas gynnar/trwy orfodaeth, trais ‘anrhydedd’ a chamdriniaeth sy’n gysylltiedig â’r gred mewn dewiniaeth. Bydd y cwrs hefyd yn cyfeirio at faterion llai hysbys megis ffafrio meibion, pris priodferch, lladd babanod ac arferion iechyd traddodiadol y gellir barnu eu bod yn niweidiol mewn cyd-destun Gorllewinol.

 

Am yr Hyfforddwr

Mae gan Cheryl dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol, mewn amrywiaeth o rolau sy’n cynnwys gofal maeth, amddiffyn plant, troseddau ieuenctid, cydraddoldeb ac amrywiaeth a cham-drin domestig. Mae ei phrofiad a’i gwybodaeth am gamfanteisio’n rhywiol ar blant yn deillio o’i gwaith fel gofalwr maeth, o faes troseddau ieuenctid ac o’i hymwneud â sefydliadau elusennol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae hi’n hyfforddwr cymwysedig ers 8 mlynedd, ac mae hi’n cyflwyno amrywiaeth o hyfforddiant i ystod eang o weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr. Mae hi hefyd yn gwnsler cymwysedig ac yn gyfryngwr annibynnol.

 

PRIS:

Aelodau: £60

Dim yn Aelodau: £75

Mae hyfforddiant yma hefyd yn cael ei gynnig yn fewnol, cysylltwch a 

training@childreninwales.org.uk am fwy o wybodaeth.

 

Children in Wales

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event