“Cadw Ein Plant Yn Ddiogel” Hyfforddiant i’r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant
Trefnwyd gan:Children in WalesPerson Cyswllt: Children in Wales
Gwefan: http://www.childreninwales.org.uk/item/keeping-children-safe-training-designated-person-child-protection-18/
Lleoliad: Conwy
13 & 14 Mehefin – Conwy
Cwrs undydd
Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw eu bywyd heb ddioddef camdriniaeth nac esgeulustod, ond mae digwyddiadau diweddar yn amlygu, unwaith eto, pa mor anodd y gall fod i gynifer o oedolion adnabod, a gweithredu ar sail pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yn datgan y dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae rôl hanfodol i’r Person Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant mewn sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn eu lle, a bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd pan fynegir pryderon ynghylch plentyn
Prisiau:
Gan ddechrau o: £170.00 – £245.00