Cadw Plant yn Ddiogel 2017

Cadw Plant yn Ddiogel 2017

Trefnwyd gan:Mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi datblygu pecyn offer diogelwch plant newydd ar gyfer 2017

 

Y nod yw lleihau anafiadau anfwriadol ymhlith plant o dan 5 oed, a bydd y pecyn offer newydd cyffrous hwn yn rhoi i’ch sefydliad a’ch ymarferwyr yr holl adnoddau angenrheidiol i gyflwyno blwyddyn gyfan o wybodaeth a chyngor diogelwch plant i rieni.

 

Mae’r pecyn offer yn cynnwys calendrau printiedig deniadol i’ch rhieni a ffon USB ar gyfer eich sefydliad. Mae’r adnodd USB wedi’i rannu’n fisoedd, gyda phob mis yn ategu’n uniongyrchol y negeseuon misol bydd rhieni’n eu gweld ar y calendr bob dydd. Ar gyfer pob mis mae brîff tîm, cynllun cam wrth gam ar gyfer sesiynau grwp rhyngweithiol, taflenni dosbarthu, posteri i’w lawrlwytho, trydariadau, negeseuon testun a deunydd i’w lanlwytho i facebook.

 

Ymhlith y materion sy’n derbyn sylw yn y pecyn offer mae gwenwyno nicotîn, syrthio, sgaldio, cortynnau bleinds a sachau cewynnau. Mae popeth wedi cael ei ddatblygu ar eich cyfer, o’r cynlluniau ar gyfer sesiynau cyflwyno i grwpiau i’r testun parod ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, ac mae popeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

 

Mae’r pecyn offer Cadw Plant yn Ddiogel wedi cael ei ddatblygu i ymateb i anghenion ymarferwyr, a ddywedodd; “Rydyn ni’n gwybod y dylen ni wneud rhywbeth, ond does gennym ni ddim amser i ddatblygu unrhyw beth, a dydyn ni ddim yn siwr beth i’w wneud na sut i fynd ati. Mae angen rhywbeth sy’n barod i ni ei ddefnyddio ar unwaith”.

 

Nid dim ond ymarferwyr sydd wedi cael rhoi eu barn, mae rhieni hefyd wedi chwarae rhan aruthrol yn natblygiad yr adnoddau. Maen nhw wedi rhoi cyngor ar fanylion fel delweddau’r calendr, yr iaith sy’n cael ei defnyddio, y cyngor ymarferol sydd ei angen arnynt, a hefyd sut maen nhw am i ymarferwyr eu cefnogi.

 

P’un a yw diogelwch plant yn faes newydd i chi neu eich bod chi eisoes yn rhoi sylw i’r materion yma, bydd fformat hwylus y pecyn offer yma’n golygu bod gennych chi ddull gwybodus, strwythuredig o atal anafiadau anfwriadol.

 

Bydd y pecyn offer Cadw Plant yn Ddiogel yn cael ei lansio ar 9 Tachwedd 2016 ac mae ar gael am gyn lleied â £195.  Fodd bynnag, rhoddir gostyngiad sylweddol i archebion a ddaw i law cyn 27 Hydref 2016.

 

Costau cyn y lansio:  £195 (Archebion a ddaw i law cyn 27 Hydref 2016)

Costau ar ôl lansio: O £245 (Archebion a ddaw i law ar ôl 27 Hydref 2016) I gael gwybod mwy, ewch i: http://www.plantyngnghymru.org.uk/ein-gwaith/atal-damweiniau/cadw-plant-yn-ddiogel-2017/

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event