Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE)

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE)

Trefnwyd gan:Children in Wales

29 Medi 2016, Y Rhyl – Ffurflen Archebu Ar-lein

 

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant (CSE) yn ymwneud â phobl ifanc o dan 18 oed sydd mewn sefyllfaoedd, cyd-destunau a pherthnasoedd camfanteisiol. Bob blwyddyn yng Nghymru mae cannoedd o blant yn dioddef camfanteisio rhywiol ac yn sgîl yr hyn a ddysgwyd yn Rotherham a dinasoedd eraill, mae Plant yng Nghymru’n cynnig cwrs undydd i gynyddu ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant.

 

Mae’r cwrs yma’n gyfle i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ddysgu beth yw eu cyfrifoldebau statudol wrth ddelio gyda phlant sydd wedi dioddef camfanteisio, sut mae adnabod yr arwyddion, diffiniadau a modelau CSE, ac ymatebion proffesiynol yng nghyd-destun Cymru.

 

Bydd y cwrs undydd hwn yn ystyried:

  • Diffiniadau o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE)
  • Pwy sydd mewn perygl
  • Pwy sy’n cyflawni hyn
  • Adnabod yr arwyddion
  • Nodweddion sy’n gwneud rhywun yn agored i niwed a dangosyddion risg
  • Ymatebion Gweithwyr Proffesiynol
  • Deddfwriaeth a Chanllawiau ar CSE
  • SERAF – ymateb Cymru i CSE
  • Cydsyniad
  • Effaith CSE ar blant, teuluoedd/gofalwyr a brodyr a chwiorydd
  • Gwersi o Rotherham
  • Gwaith a phartneriaethau effeithiol
  • Ataliaeth ac addysg

 

Ar gyfer pwy mae’r cwrs wedi’i fwriadu:

Gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ym meysydd gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg, asiantaethau statudol eraill, cyrff gwirfoddol a chyrff trydydd sector.

 

 

COST:  

Aelodau £80             Heb fod yn Aelodau:  £100

 

Mae hyfforddiant yma hefyd yn cael ei gynnig yn fewnol, cysylltwch a  training@childreninwales.org.uk am fwy o wybodaeth.

 

Children in Wales

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event