Cudd – Hyfforddiant ar yr adnodd ar-lein ar Gamfanteisio Rhywiol ar Blant 16fed a 17fed Chwefror 2016

Bydd Barnardos Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol hanner diwrnod ar draws Cymru a hanelu’n bennaf at ymarferwyr mewn ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n gweithio gyda 14 – 18 oed

Diben yr hyfforddiant yw:

  • Nod yr hyfforddiant yw helpu ymarferwyr addysg i ddeall eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau mewn perthynas ag atal camfanteisio rhywiol ar blant a diogelu plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin. Yn benodol, bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i ddefnyddio Cudd: Adnodd Addysgol am Gamfanteisio Rhywiol wrth gyflwyno sesiynau. Bydd hynny’n sicrhau bod pobl ifanc yn:
  • deall y cysylltiadau rhwng dewis a chanlyniadau e.e. pa mor rhwydd ydyw i gael eich tynnu i mewn i gam-fanteisio rhywiol a pha mor anodd ydyw i ddianc rhagddo;
  • cydnabod sefyllfaoedd sy’n peri risg a ffactorau sy’n gwneud pobl ifanc yn fwy agored i eraill camfanteisio arnynt yn rhywiol;
  • siarad am yr effaith emosiynol a chorfforol y mae camfanteisio rhywiol yn ei chael ar bobl a dangos empathi at deimladau eraill nodi’r prif bobl y gallant droi atynt i gael cymorth, dod o hyd i ffyrdd o leihau’r risgiau a llunio strategaethau i’w cadw eu hunain yn ddiogel.

http://barnardos-cymru-training-2016.eventbrite.co.uk