HYFFORDDIANT RHAD AC AM DDIM – Rhoi Cyfranogiad ar Waith i Bobl Ifanc

HYFFORDDIANT RHAD AC AM DDIM – Rhoi Cyfranogiad ar Waith i Bobl Ifanc

Trefnwyd gan:Children in Wales

28/09/2016 | Y RHYL | 13:00 – 16:00

Bydd y gweithdy’n edrych ar gyfranogiad a’r berthynas rhyngddo a CCUHP a deddfwriaeth Cymru megis y Mesur Hawliau Plant, y Mesur Plant a Theuluoedd, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y sesiwn yn archwilio ffyrdd ymarferol o gyflwyno cyfranogiad a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ymgysylltu â phobl ifanc mewn modd ystyrlon.

 

Canlyniadau Dysgu

Bydd y Cyfranogwyr yn:

  • Deall Cyfranogiad a sut mae’n galluogi Hawliau Plant
  • Archwilio Cyfranogiad a’i Fframwaith Cyfreithiol
  • Caffael sgiliau ymarferol o ran cynnwys pobl ifanc yn eich gwaith

Ar gyfer pwy mae wedi’i fwriadu?

Ymarferwyr, Rheolwyr a Llunwyr Polisi o bob sector a sefydliad sy’n awyddus i edrych ar sut mae eu maes gwaith yn ffitio i ddarlun ehangach polisi plant a theuluoedd yng Nghymru. Bydd yn helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer newidiadau a ragwelir a gweithredu’n effeithiol mewn cyd-destun amlasiantaeth.

 

Mae’r hyfforddiant yn DDI-DÂL ac wedi’i gyfyngu i DAU gyfranogwr o bob sefydliad yn unig.

 

**CANSLO**

Digwyddiad DI-DÂL yw hwn, ond codir tâl o £50 ar y cynrychiolwyr hynny nad ydynt yn bresennol ar ôl cadw lle. Bydd modd i chi ganslo lle hyd at 2 ddiwrnod cyn y digwyddiad. Byddwn bob amser yn derbyn dirprwyon os na all y cyfranogwr a enwyd fod yn bresennol ar fyr rybudd.

Children in Wales

 

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event