Hyfforddiant Rhad Ac Am Ddim – Rhoi Cyfranogiad ar Waith i Bobl Ifanc
Trefnwyd gan:Children in WalesGwefan: http://www.childreninwales.org.uk/item/putting-participation-practice-young-people-p-m/
Lleoliad: Aberystwyth
Bydd y gweithdy’n edrych ar gyfranogiad a’r berthynas rhyngddo a CCUHP a deddfwriaeth Cymru megis y Mesur Hawliau Plant, y Mesur Plant a Theuluoedd, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y sesiwn yn archwilio ffyrdd ymarferol o gyflwyno cyfranogiad a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ymgysylltu â phobl ifanc mewn modd ystyrlon.
Canlyniadau Dysgu
Bydd y Cyfranogwyr yn:
- Deall Cyfranogiad a sut mae’n galluogi Hawliau Plant
- Archwilio Cyfranogiad a’i Fframwaith Cyfreithiol
- Caffael sgiliau ymarferol o ran cynnwys pobl ifanc yn eich gwaith
Ar gyfer pwy mae wedi’i fwriadu?
Ymarferwyr, Rheolwyr a Llunwyr Polisi o bob sector a sefydliad sy’n awyddus i edrych ar sut mae eu maes gwaith yn ffitio i ddarlun ehangach polisi plant a theuluoedd yng Nghymru. Bydd yn helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer newidiadau a ragwelir a gweithredu’n effeithiol mewn cyd-destun amlasiantaeth.
Mae’r hyfforddiant yn DDI-DÂL ac wedi’i gyfyngu i DAU gyfranogwr o bob sefydliad yn unig.
**CANSLO**
Digwyddiad DI-DÂL yw hwn, ond codir tâl o £50 ar y cynrychiolwyr hynny nad ydynt yn bresennol ar ôl cadw lle. Bydd modd i chi ganslo lle hyd at 2 ddiwrnod cyn y digwyddiad. Byddwn bob amser yn derbyn dirprwyon os na all y cyfranogwr a enwyd fod yn bresennol ar fyr rybudd