Hyfforddiant Ymwybyddiaeth ‘Caring Dads’ ar gyfer cyfeirwyr
Trefnwyd gan:GorwelDydd Mawrth, 2il o Awst 2016
Hwyluswyr – Paul Jones & Megan Williams
Hyd y cwrs – 09:30 – 12:00
Lleoliad – Gorwel, Llangefni
Uchafswm Cyfranogwyr – 15 person y sesiwn
Nôd y cwrs :
Cyflwyniad i raglen ‘Caring Dads’ ac i drafod defnyddwyr gwasanaeth addas i’w cyfeirio i’r rhaglen.
Ymroddir rhaglen Caring Dads i sicrhau diogelwch a lles plant drwy weithio gyda thadau sydd wedi cam-drin ac esgeuluso eu plant. Yn ogystal mae Caring Dads yn gweithio â thadau sydd wedi cam-drin mamau ym mhresenoldeb eu plant. Rhaglen yw Caring Dads sy’n canolbwyntio ar les penodol y plentyn.
Ffocws rhaglen Caring Dads yw:
Cynorthwyo dynion i adnabod agweddau ac ymddygiadau positif a negyddol wrth feithrin perthynas rhwng tad a phlentyn.
Datblygu sgiliau rhyngweithiol gyda phlant mewn dull positif.
Ysgogi dealltwriaeth ac effaith mae ymddygiad bygythiol, sarhaus ac esgeulus yn cael ar blant. Ymchwilio beth yw effaith tadau sydd wedi cam-drin mamau ym mhresenoldeb eu plant.
I hawlio eich lle ar y cwrs uchod cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda ar:-
01248 750903 neu gorwel@gorwel.org
Neu drwy Eventbrite – https://www.eventbrite.com/e/caring-dads-awareness-training-tickets-26146523957