Lansio Cynllun Herbert – Oedolion Sydd Yn Mynd Ar Goll

Lansio Cynllun Herbert – Oedolion Sydd Yn Mynd Ar Goll

Trefnwyd gan:Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru/Heddlu Gogledd Cymru
Person Cyswllt: Book via Eventbrite
Gwefan: https://www.eventbrite.com/e/launch-of-the-herbert-protocol-missing-adults-tickets-48363437343

Amser: 09:30 – 12:30

Cafodd y Cynllun Herbert ei enwi ar ol George Herbert, cyn filwr Normandi, a oedd yn dioddef o dementia. Hyn ydy’r broses i’w defnyddio os ydy person sydd yn agored i niwed, yn enwedig os yn dioddef o dementia yn mynd ar goll.

Mae ffurflen wedi ei gynnwys er mwyn cofnodi gwybodaeth allweddol sydd ei angen gan yr heddlu os ydy person sydd yn agored i niwed yn mynd ar goll. Fe ddylai gofalwyr, teulu a ffrindiau cwblhau y ffurflen o flaen llaw. Bydd y gwybodaeth yma yn cael ei rhannu gydag Heddlu Gogledd Cymru os ydy’r person yn mynd ar goll.

Yn ystod y digwyddiad Lansio bydd cyflwyniadau yn cael ei cynnal gan siaradwyr gwadd ar:

  • Trosolwg O’r Brosess yng Ngogledd Cymru
  • Yr effaith ar Deuluoedd/Ofalwyr pan mae Oedolyn yn mynd ar goll

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event