Pobl Ifanc a Chamddefnyddio Sylweddau: Pam nad yw’r Cyffuriau’n Gweithio?

Pobl Ifanc a Chamddefnyddio Sylweddau: Pam nad yw’r Cyffuriau’n Gweithio?

Trefnwyd gan:Children in Wales

28 CHWEFROR 2017, CONWY – Archebwch Ar-lein

Cwrs undydd

Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar gamddefnyddio sylweddau a phobl ifanc. Bydd y cwrs yn amlinellu cyffuriau, alcohol a sylweddau anterth cyfreithlon ac anghyfreithlon. Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar sylweddau newydd a’r ymddygiad sy’n deillio o’u defnyddio. Bydd yn helpu’r cyfranogwyr i greu strategaethau ar gyfer delio gyda defnydd pobl ifanc a’r ymddygiad anodd a pheryglus a all ddeillio ohonynt. Bydd yn archwilio’r berthynas rhwng camddefnyddio sylweddau a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, a sut mae diogelu pobl ifanc. Fe’i cynhelir gan ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau.

Canlyniadau Dysgu

Bydd y Cyfranogwyr yn:

  • Meddu ar ddealltwriaeth o sylweddau a chamddefnyddio sylweddau
  • Dysgu ffyrdd o gefnogi pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau
  • Gwybod sut mae adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef Camfanteisio Rhywiol
  • Casglu gwybodaeth am ddiogelu pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau
  • Caffael sgiliau ymarferol ar gyfer ymdopi ag ymddygiad pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau

Ar gyfer pwy mae wedi’i fwriadu?

Ymarferwyr, Rheolwyr a Llunwyr Polisi o bob sector a phob sefydliad sy’n awyddus i archwilio sut gall eu gwaith gefnogi pobl ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau. Archwilio tueddiadau newydd o ran camddefnyddio sylweddau megis sylweddau anterth cyfreithlon a chyffuriau seicoweithredol eraill.

COST:

Aelodau: £80        Heb fod yn aelodau: £100

 

Mae hyfforddiant yma hefyd yn cael ei gynnig yn fewnol, cysylltwch a 

training@childreninwales.org.uk am fwy o wybodaeth.

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event