Sgyrsiau am ‘yr hyn sy’n bwysig i Plant a Phobl Ifanc?
Trefnwyd gan:Children in WalesGwefan: http://www.childreninwales.org.uk/item/matters-children-young-people-conversation/
08 Mawrth 2017, Llandudno – Archebu Ar-lein
Cwrs undydd
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, bydd angen cynnwys plant a phobl ifanc sy’n gymwys i dderbyn Gwasanaethau Gofal a Chymorth mewn Sgyrsiau Beth sy’n Bwysig ac wrth Gyd-gynhyrchu eu Nodau Llesiant.
Bu newid diwylliant o ran sut rydym ni’n gweithio gyda phobl o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys plant a phobl ifanc, a symudiad oddi wrth wneud pethau i plant a phobl ifanc, i wneud gyda nhw. Bydd y cwrs yn edrych ar y fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru, y cyd-destun ar gyfer Sgyrsiau Beth sy’n Bwysig, a sut mae cynnal asesiadau gyda phlant a phobl ifanc.
Bydd yr hyfforddiant yn rhoi i’r cyfranogwyr yr wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i gynnal asesiadau, gan ddefnyddio chwarae a thechnegau a gweithgareddau creadigol Dull Person-Ganolog ar gyfer gwaith un-i-un a thechnegau a gweithgareddau creadigol o’r cyfnod paratoi hyd at gynnal asesiadau ac ymlaen i’r camau dilynol. Bydd y cwrs yn defnyddio dull seiliedig ar hawliau plant, sy’n ddyletswydd trosfwaol o dan y Ddeddf.
Bydd y cwrs undydd hwn yn ystyried:
- Trosolwg o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
- Fframwaith Hawliau Plant o dan y Ddeddf
- Cyd-destun Sgyrsiau Beth sy’n Bwysig
- Pwrpas asesiadau
- 5 elfen asesiadau
- Y gwahaniaeth rhwng Llesiant a Lles
- Rhwystrau i gyfranogiad
- Cyd-gynhyrchu a beth mae hynny’n ei olygu’n ymarferol
- Y sgiliau a’r adnoddau sy’n angenrheidiol i ymgysylltu â phlant
I bwy mae’r cwrs wedi’i fwriadu:
Rheolwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ym maes gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg, asiantaethau statudol eraill, a chyrff gwirfoddol a thrydydd sector.
Cost:
Aelodau: £80 Heb fod yn aelodau: £100