Stopio AMSER Ar-lein – Cymerwch EILIAD – Cymerwch Reolaeth – Pecyn Gweithgaredd Atal Arddangos Ar-lein

Stopio AMSER Ar-lein – Cymerwch EILIAD – Cymerwch Reolaeth – Pecyn Gweithgaredd Atal Arddangos Ar-lein

Trefnwyd gan:NSPCC
Person Cyswllt: Paula Bailey
E-bost: nspccnorthwales@nspcc.org.uk
Ffôn: Please email to book your place: nspccnorthwales@nspcc.org.uk
Lleoliad: Neuadd y Dref Rhyl, Ffordd Wellington, Rhyl, LL18 1BA. 2-4 o’r gloch,

Yn dilyn prosiect partneriaeth 6 mis arloesol, mae NSPCC Cymru / Prifysgol Cymru ac Abertawe wrth eu bodd yn cyhoeddi lansiad pecyn gweithgaredd newydd i gefnogi gwaith i atal gyfarthrebu i baratoi plant at bwrpas rhyw gan oedolion ar-lein.

Mae’r pecyn wedi’i gynllunio ar gyfer gwaith un-i-un neu gwaith mewn grwpiau bach gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o, neu sydd wedi profi, paratoi plant at bwrpas rhyw gan oedolion ar-lein. Mae’n trosi canfyddiadau ymchwil arloesol i ddeunyddiau deniadol, fel bod gweithwyr proffesiynol yn gallu hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r strategaethau mae’r rhai sydd yn baratoi plant at bwrpas rhyw ar-lein yn defnyddio i ddatblygu ymddiriedaeth a pherthynas gyda phobl ifanc.
Bydd y pecyn gweithgaredd yn cael ei lansio yn y digwyddiad hwn gyda siaradwyr allweddol o dîm polisi a Gwesteion y Brifysgol a NSPCC.

Bydd y pecyn gweithgaredd yn cael ei lansio gan;

Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus – Prif Ymchwilydd, Prosiect Ymchwil Cyfathrebu Arloesi Ar-lein, Prifysgol Abertawe.
Ruth Mullineux – Arweinydd Prosiect yr NSPCC
Ditectif Brif Uwcharolygydd Wayne Jones – Heddlu Gogledd Cymru
Ann Griffiths – Dirprwy Gomisiynydd Troseddau Heddlu Gogledd Cymru

Bydd yr digwyddiad hwn yn agored i weithwyr proffesiynol sy’n rheoli staff neu’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol â phlant neu bobl ifanc mewn gwahanol leoliadau proffesiynol. (hynny yw Heddlu, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol addysg, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr iechyd proffesiynol)

Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd y Dref yn Rhyl, gweler y manylion parcio ceir sydd ynghlwm.

Os hoffech fynychu, archebwch eich lle trwy anfon e-bost at Paula Bailey yn nspccnorthwales@nspcc.org.uk  Mae yna argaeledd cyfyngedig felly cofrestrwch ar eich cyfer cyn gynted â phosib.
 

Associated Downloads

There are no downloads associated with this event