Gweithio Gynd’n Gilydd i Ddiogelu Popl – Cyfrol 2 a 3 – Adolygiadau Ymarfer Plant a Adolygiadau ymarfer oedolion amlasiantaethol

Bethan Jones

Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd yn rhan o’r compendiwm o ganllawiau diogelu statudol i gefnogi partneriaid byrddau diogelu wrth iddynt ymarfer eu cydgyfrifoldebau diogelu ac atal ar gyfer oedolion a phlant sy’n destun neu sydd mewn perygl o fod yn destun cam-drin neu esgeulustod.

Mae’r canllawiau ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant wedi’u hadolygu a’u diweddaru ers cael eu cyhoeddi gyntaf yn Ionawr 2013 ac maent yn adlewyrchu canfyddiadau’r gwerthusiad annibynnol o weithredu’r fframwaith adolygiadau ymarfer plant. Canllawiau newydd yw’r canllawiau adolygu ymarfer oedolion o ganlyniad i ddarpariaethau cryfach ar gyfer diogelu oedolion o fewn y Ddeddf. Byddwch yn sylwi ein bod wedi cysoni prosesau adolygu arferion mor agos â phosibl er mwyn sicrhau capasiti a chynaliadwyedd yn y gwaith hwn.

Mae’r ddwy set o ganllawiau wedi’u datblygu i wella’r diwylliant dysgu ac adolygu mewn achosion lle’r amheuir bod cam-drin neu esgeulustod yn digwydd ac maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

NWSB header

Leave a Comment