Dylai pob oedolyn 18 oed a drosodd allu byw bywyd heb fod ofn a heb ddioddef niwed a dylid parchu eu hawliau a’u dewisiadau.
Mae rhai oedolion yn llai abl i ddiogelu eu hunain nag eraill, ac mae rhai yn cael anhawster i gyfleu eu dymuniadau a’u teimladau. Gall hyn eu gwneud yn agored i gael eu cam-drin.
Mae Diogelu Oedolion yn cyfeirio at ddiogelu oedolyn ’sydd mewn perygl’ o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod.
“Oedolyn mewn perygl” yw oedolyn sydd:
- Yn profi, neu mewn perygl o brofi camdriniaeth neu esgeulustod,
- Angen gofal a chymorth (boed yr awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion hynny ai peidio), ac
- O ganlyniad i’r anghenion hynny, ddim yn gallu amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu’r risg y byddant yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.
Os ydych yn amau fod rhywun mewn perygl uniongyrchol o ddioddef niwed, ffoniwch 999 a siaradwch â’r heddlu.
Os ydych wedi bod neu os ydych yn dal i ddioddef camdriniaeth, neu os ydych yn adnabod rhywun yr ydych yn amau eu bod yn cael eu cam-drin, cysylltwch â’ch awdurdod lleol – mae’r manylion cyswllt wedi’u rhestru ar y wefan.
Gweld Rhywbeth – Dweud Rhywbeth
Y cyfrinair ar gyfer lawrlwytho y fideo: safeguarding fedrwch lawrlwytho y fideo yma
Gellir dod o hyd i’r ffurflen atgyfeirio diogelu yma
MAE DIOGELU YN FATER I BAWB.
Mae cynllun sy’n sicrhau bod gwybodaeth bwysig ar gael i’r rhai hynny sy’n chwilio am bobl fregus sydd ar goll yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru.