Protocol Herbert

Mae cynllun sy’n sicrhau bod gwybodaeth bwysig ar gael i’r rhai hynny sy’n chwilio am bobl fregus                                                                                                                sydd ar goll yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru.

Cynllun cenedlaethol yw Protocol Herbert sy’n cael ei gyflwyno’n lleol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn annog  gofalwyr ac aelodau teulu i lenwi ffurflen sy’n rhoi gwybodaeth bwysig am unigolyn bregus i’w defnyddio pe baent yn mynd ar goll.  Gall hyn gynnwys manylion am lefydd y maent yn hoff o fynd iddynt, unrhyw feddyginiaeth y mae’n rhaid iddynt ei chymryd, eu trefn ddyddiol arferol, disgrifiad a llun diweddar ohonynt.

Pe bai aelod o deulu neu gyfaill yn mynd ar goll, gellir anfon y wybodaeth yn syth at swyddogion heddlu rheng flaen a SCCH gan olygu nad oes angen treulio amser yn casglu’r manylion yn gyntaf a bod gwybodaeth hollbwysig ar gael ar unwaith i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan yn y chwiliad er mwyn gallu dod o hyd i’r unigolyn bregus a’u dychwelyd adref  yn ddiogel cyn gynted â phosibl.

Mae’r protocol wedi’i enwi ar ôl George Herbert, cyn-filwr a oedd yn rhan o laniadau D-Day yn Normandi.  Roedd yn dioddef o ddementia ac aeth ar goll sawl blwyddyn yn ôl.

Meddai Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru:   “Does dim yn peri mwy o ofn a phryder na methiant aelod o’r teulu, cyfaill neu gymydog i ddychwelyd adref fel y disgwylir iddynt wneud.

“I bobl sy’n byw â rhywun â dementia, gallai hyn fod yn rhywbeth sy’n digwydd yn eithaf aml, a gallai Protocol Herbert gynnig tawelwch meddwl iddynt.  Mae ar bobl angen eu hannibyniaeth o hyd, a gall y protocol helpu i roi tawelwch meddwl i deulu a chyfeillion pe bai rhywun sy’n annwyl iddynt yn mynd ar goll, y bydd y wybodaeth ar gael yn ddi-oed, a bod mwy o siawns o ddod o hyd iddynt yn gyflym”.

Meddai Prif Gwnstabl Gareth Pritchard: “Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl sy’n byw â dementia fyw bywydau annibynnol cyn hired â phosibl.

“Mae Protocol Herbert yn rhoi tawelwch meddwl i aelodau teulu a chyfeillion agos gan ein helpu ni i gael gwybodaeth gywir a phwysig a fydd yn rhoi’r siawns orau i ni o ddod o hyd i’r unigolyn cyn gynted â phosib.

“Buaswn yn annog unrhyw un sy’n adnabod rhywun sy’n byw â dementia i lenwi’r ffurflen a’i chadw’n ddiogel rhag ofn y bydd yn rhaid iddyn nhw un diwrnod roi gwybod i’r heddlu bod eu perthynas/cyfaill wedi mynd ar goll”

Bydd y protocol yn cael ei lansio’n swyddogol yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno ddydd Mercher, 19 Medi am 9.30am.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a’r ffurflen yn www.north-wales.police.uk/herbertprotocol