Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc

         

       

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl uniongyrchol yna ffoniwch yr heddlu ar 999 call

Croeso i Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru! Neu BDPGC yn fyr. 

Mae Diogelu ynglyn amddiffyn plant rhag cael eu camdrin neu eu hesgeuluso ac i addysgu y rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.

Un o’r pethau mwya phwysig ydy fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb. Mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol a sefydliadau gwneud pob dim yn eu gallu er mwyn sicrhau fod plant sydd mewn perygl yn cael ei amddiffyn rhag cael eu camdrin.

Ydych chi’n poeni am rywbeth?

Ydych chi angen siarad gyda rhywun?

Mae’n anodd iawn siarad am gamdriniaeth yn aml – ond os nad ydych yn dweud wrth unrhyw un ni allant eich helpu i roi’r gorau.

Os ydych chi, ffrind neu rywun rydych yn ei adnabod yn cael ei niweidio, wedi eu trin mewn ffordd sy’n eich gwneud i deimlo’n ofnus neu’n anniogel, neu os ydych yn teimlo’n unig iawn neu’n anhapus, dywedwch wrth rywun amdano fel y gallant geisio eich helpu chi. Siaradwch gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddynt, fel athro neu nyrs yn eich ysgol. Byddant yn gwrando ac yn eich cefnogi chi, a siarad drwy beth gellir ei wneud i helpu i ddatrys pethau.

Gallwch helpu mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Mewn argyfwng – fel pan fydd rhywun yn cael ei daro neu ei gau allan o’i gartref – ffonio’r heddlu ar 999 call .

Mewn sefyllfa ddifrys gallwch hefyd ffonio’r heddlu ar 101 call .

Neu gallwch gysylltu â:

ChildLine ar 0800 1111 call neu ewch i wefan Childline: ChildLine Website

NSPCC ar 0800 800 5000 call neu ewch i wefan NSPCC: NSPCC:

Os nad ydych yn dymuno siarad gyda rhywun nad ydych yn ei adnabod, gallwch ofyn i oedolyn rydych yn ymddiried ynddynt, fel athro neu weithiwr ieuenctid neu hyd yn oed ffrind i wneud yr alwad i chi. Pan fydd pobl yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mae’n rhaid iddynt ddilyn gweithdrefnau, ond byddant yn egluro wrthych yr hyn y byddant yn ei wneud a dylent allu eich cefnogi drwy’r broses.

Os ydych yn cael eich bwlio neu’n poeni am unrhyw beth sy’n digwydd neu all ddigwydd i chi pan rydych ar y rhyngrwyd, mae yna wefannau defnyddiol efallai yr hoffech gael golwg arnynt. Rydym wedi rhestru’r rhain isod.

Gweld Rhywbeth – Dweud Rhywbeth

– y cyfrinair ar gyfer lawrlwytho y fideo: safeguarding – fedrwch lawrlwytho y fideo yma

Dolenni Defnyddiol :

Beth yw Cam-drin Plant?

CSE NSPCC

NSPCC Bwlio

Barnardo’s

Cael help i oresgyn camdriniaeth