Wythnos Codi Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern 2016

Bethan Jones

Ymagwedd Ranbarthol Gogledd Cymru tuag at fynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern: 

Mae Gogledd Cymru yn parhau i fuddsoddi adnoddau i fynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern. Y Prosiect Rhanbarthol blaenorol ar gyfer Atal Masnachu Pobl oedd y cyntaf o’i fath yn y DU, gyda Chymru ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â Masnachu mewn Pobl yn ei holl ffurfiau. Mae 29 o asiantaethau, ar draws y sector cyhoeddus a’u partneriaid elusennol, wedi cydnabod bod un o’r mathau hynaf a mwyaf llechwraidd o gam-fanteisio ar bobl yn wirioneddol fyw ac ‘yn gudd yng ngolwg pawb’ ledled Prydain fodern.  Nid ‘ffenomen canol dinasoedd ‘ yn unig ydyw ac mae’n cael cymaint o effaith ar Ogledd Cymru â phob man arall.

Mae Caethwasiaeth Fodern fel y’i gelwir mewn deddfwriaeth newydd ddiweddar a ddaeth i rym yn 2015 yn difetha cymdeithas fodern trwy gam-fanteisio ar weithwyr (e.e. pobl sy’n pigo ffrwythau a llysiau, pobl sy’n pacio bwyd), cam-fanteisio troseddol (e.e. tyfu canabis), cam-fanteisio rhywiol, cynaeafu organau a cham-fanteisio ar blant (sydd, yn drasig, yn cynnwys pob un o’r uchod).

Y pedwar nod strategol mewn perthynas â mynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern yng Ngogledd Cymru yw: –

  • Codi Ymwybyddiaeth: Gwreiddio hyfforddiant o fewn Awdurdodau Lleol ac asiantaethau partner a chynnal ymgyrch wedyn i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus yn ystod yr Wythnos Atal Caethwasiaeth a gynhelir bob blwyddyn – ategir hyn gan drefniadau gwell i rannu gwybodaeth a chasglu data a gweithdrefnau cyfeirio cadarnach.
  • Llwybrau Diogelu i Ddioddefwr: Llwybrau gofal clir i’w dilyn gan oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr, sef llwybrau y mae gan y dioddefwyr a’r gweithwyr bob ffydd ynddynt.
  • Atal: Nodi’r risgiau sy’n effeithio ar Ogledd Cymru, risgiau yn y gymuned ac yn allanol (e.e. Porthladd Caergybi, prosiectau economaidd ar raddfa fawr ac ati) a’u lliniaru.
  • Ymchwiliadau: Gwella’r ffyrdd y mae’r cyrff sy’n gorfodi’r gyfraith a phartneriaid cyfiawnder troseddol yn nodi ac yn ymchwilio i Gaethwasiaeth Fodern yn ei holl ffurfiau a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell.

Yr amcan cyffredinol yw: ‘Gwneud Cymru’n Elyniaethus i Gaethwasiaeth Fodern’ yn ei holl ffurfiau.

Dylid rhoi gwybod am achosion tybiedig o Gaethwasiaeth Fodern fel a ganlyn: – Mewn argyfwng: ffoniwch 999 Y tu allan i argyfwng: ffoniwch 101 Os ydych eisiau rhoi gwybod yn ddienw, ffoniwch Crimestoppers ar : 0800 555 111 Llinell gymorth genedlaethol Caethwasiaeth Fodern: 0800 0121700 Cymorth i ddioddefwyr Caethwasiaeth Fodern yng Ngogledd Cymru: ffoniwch BAWSO ar 0800 731 8147

Gwrth-Gaethwasiaeth Sticeri Tacsi

Port a Maes Awyr Caethwasiaeth Poster

Poster Caethwasiaeth

Aml Ieithog Flyer

Leave a Comment